Wales Golf Logo WHS LOGIN

Cymraeg

Golf Cymru

Yn Golff Cymru mae gennym strategaeth 5 mlynedd. Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Golff  yn ‘Gêm i Bawb. Yn unrhyw le ‘. Byddwn yn creu ac yn cefnogi amgylchedd yng Nghymru lle mae golff yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb allu cyfranogi ynddo, ei fwynhau a gwella yn y gamp. Mae’n strategaeth ar gael i’w lawr lwytho yma yn y Gymraeg.

Cyfathrebu

Os hoffech chi gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwn yn ceisio gwneud hynny, lle y bydd yn bosibl, trwy’r aelod o’n staff sy’n siarad Cymraeg – Dilwyn Griffiths, Swyddog Datblygu Clybiau Rhanbarthol (Gogledd) Cymru, a’n harweinydd ar gyfer yr Iaith Gymraeg.

Cyfryngau

Os hoffai unrhyw sefydliad gynnal cyfweliadau neu drefnu ffilmio trwy gyfrwng y Gymraeg, gall hyn fod yn bosibl drwy gysylltu â ni.

Adnoddau

Mae nifer o’n hadnoddau ar gael yn yr iaith Gymraeg.

1) Posteri a Baneri Hyrwyddo

Posteri i hyrwyddo cynlluniau hyfforddi dechreuwyr New2Golf i dargedu grwpiau. Mae’r rhain ar gael mewn copi caled neu gellir eu lawr lwytho isod.

2) Digwyddiadau a Gwyliau Cynulleidfaoedd Cyhoeddus

Mae Golff Cymru yn cefnogi ac yn annog clybiau golff a sefydliadau i fod yn weledol yn y gymuned leol. Ffordd wych o hyrwyddo gweithgareddau golff y clwb yw mynychu digwyddiad lleol fel ffair, gŵyl haf, diwrnod chwaraeon neu hyd yn oed ganolfan siopa. Mae offer digwyddiadau dwyieithog a rhwydi chwyddadwy ar gael i’w benthyg YN RHAD AC AM DDIM i glybiau a sefydliadau. Beth am hyrwyddo eich cynllun New2Golf eleni mewn digwyddiad lleol? Am ragor o wybodaeth neu i logi offer, cysylltwch â ni neu anfonwch e-bost at sian.simmons@walesgolf.org. Dyma ddelwedd o’n rhwydi chwyddadwy

3) Pasbort Golff Iau

Er bod y rhaglen Pasbort Golff Iau yn adnodd Saesneg sydd ar gael drwy’r elusen Golf Foundation, dylai unrhyw glwb neu sefydliad sy’n teimlo y byddent yn elwa o gael fersiwn Gymraeg, gysylltu â ni.

4) Cardiau Fflach Hyfforddi

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Chwaraeon Cymru er mwyn creu cardiau fflach dwyieithog sy’n tynnu sylw at y gwahanol derminoleg sylfaenol a ddefnyddir mewn golff. Gall hyfforddwyr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg a Saesneg ddefnyddio’r cardiau hyn.

5) Hyfforddi a Chynlluniau Dechreuwyr New2Golf

Mae’r gweithlu hyfforddi golff yng Nghymru yn siarad Saesneg yn bennaf, fodd bynnag,  mae prosesau’n cael eu rhoi yn eu lle er mwyn dangos lle mae clybiau‘r sesiynau hyfforddi New2Golf sydd ag aelod o’r staff neu wirfoddolwr sy’n siarad Cymraeg yn cael eu cynnal. Bydd y clybiau hyn yn cynnwys symbol yr Iaith Gymraeg. Os hoffech chi wybod os oes hyfforddwr Cymraeg yn eich hardal chi, cysylltwch â ni.

 

Downloads